Telerau ac amodau defnyddio . . .
Drwy ddefnyddio Zodshopdesign.co.uk rydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y telerau hyn, a fydd yn effeithiol ar unwaith pan ddefnyddiwch Zodshopdesign.co.uk am y tro cyntaf. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan yr holl delerau canlynol, a fyddech gystal â pheidio â defnyddio nac ymweld â Zodshopdesign.co.uk.
Gall Zodshopdesign.co.uk newid y telerau hyn unrhyw bryd drwy bostio newidiadau ar-lein. Adolygwch y telerau hyn yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau a wnaethpwyd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio Zodshopdesign.co.uk ar ôl i newidiadau gael eu postio, golygir eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y telerau hyn fel y’u diweddarwyd a/neu diwygiwyd.
Defnyddio Zodshopdesign.co.uk…
Ni chewch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho i lawr, darlledu, trosglwyddo, rhyddhau i’r cyhoedd, na defnyddio cynnwys Zodshopdesign.co.uk fel arall mewn unrhyw fodd heblaw at eich defnydd personol, anfasnachol chi. Cytunwch hefyd i beidio ag addasu, newid na chreu gwaith deilliadol o unrhyw gynnwys Zodshopdesign.co.uk heblaw at eich defnydd personol, anfasnachol chi. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig Zodshop Design cyn defnyddio cynnwys Zodshopdesign.co.uk mewn unrhyw fodd arall.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio Zodshopdesign.co.uk at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw’n torri hawliau, cyfyngu nac atal unrhyw un arall rhag defnyddio a mwynhau ZodshopDesign.co.uk. Mae ymddygiad gwaharddedig yn cynnwys aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw un, trosglwyddo cynnwys brwnt neu annymunol neu aflonyddu ar lif arferol y deialog yn Zodshopdesign.co.uk.
Ymwadiadau a Chyfyngiad ar Atebolrwydd…
Mae cynnwys ZodshopDesign.co.uk, gan gynnwys y wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau ynghylch neu’n gysylltiedig â Zodshop Design, yn cael ei ddarparu “FEL Y MAE” ac ar sail “AR GAEL” heb unrhyw gynrychiolaethau nac unrhyw fath o warant wedi’i wneud (pa un a yw’n ddiamwys neu’n oblygedig gan y gyfraith) i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, gan gynnwys gwarantau goblygedig ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.
Nid o dan unrhyw amgylchiadau y bydd Zodshop Design yn atebol am unrhyw un o’r colledion neu niwed canlynol (p’un a oedd colledion felly wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall): (a) colli data; (b) colli refeniw neu elw a ragwelwyd; (c) colli busnes; (ch) colli cyfle; (d) colli ewyllys da neu ddifrod i enw da; (dd) colledion a ddioddefir gan drydydd parti; nac (e) unrhyw niweidion anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu enghreifftiol sy’n codi o ddefnyddio ZodshopDesign.co.uk heb ystyried y math o weithred.
Nid yw ZodshopDesign.co.uk yn rhoi sicrwydd y bydd swyddogaethau yn Zodshopdesign.co.uk yn ddi-dor na heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod Zodshopdesign.co.uk na’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd o firysau neu namau.
Ymwadiad Cysylltiadau….
Mae pob cyswllt a wneir ar gael yn cael eu darparu er cyfleustra ein defnyddwyr. Nid oes gennym reolaeth, ni arferwn unrhyw gyfrifoldeb ac ni wnawn unrhyw gynrychiolaethau ynghylch cywirdeb nac unrhyw agwedd arall ar y cynnwys/gwybodaeth a ganfyddir neu a ddefnyddir wrth ymweld ag unrhyw wefan trydydd parti. Ni ddylid ystyried bod darparu cyswllt â gwefan trydydd parti yn gymeradwyaeth ddiamwys na goblygedig gennym ni o unrhyw gynnwys/gwybodaeth, cynnyrch/gwasanaethau a all fod ar gael ichi, neu ar gael ichi drwy’r trydydd parti.
Eiddo Deallusol…
Mae’r hawlfraint yn y deunydd sy’n cael ei gynnwys ar y wefan hon, dylunio, testun a graffig, a’u dewis a’u trefn, a’r holl grynoadau meddalwedd, cod gwreiddiol a meddalwedd waelodol (gan gynnwys rhaglenigion) yn perthyn i ZodshopDesign.co.uk neu ddarparwyr y fath wybodaeth. Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu nac ailddosbarthu dim o’r deunydd hwn heb ein caniatâd ysgrifenedig. Fodd bynnag, cewch lwytho i lawr neu argraffu un copi ar gyfer eich darllen all-lein anfasnachol eich hun.
Efallai bod enwau cynnyrch a chwmni y sonnir amdanynt ar y wefan hon yn nodau masnach neu’n nodau masnach cofrestredig eu perchenogion priodol.
Cyfraith lywodraethu…
Llywodraethir y telerau ac amodau hyn gan gyfraith Prydain a dylid eu dehongli’n unol â’r gyfraith honno.
Bydd unrhyw anghydfodau’n destun awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Prydain.