Gwybodaeth Amgylcheddol . . .
Caiff ein stiwdio arobryn ei phweru’n gyfan gwbl gan ein system ynni adnewyddadwy ein hunain sy’n cynnwys tyrbin gwynt, sawl panel ffotofoltaidd (PV) a system micro-hydro. Dewiswyd holl offer y stiwdio yn arbennig ar gyfer defnyddio ychydig iawn o bŵer i gadw ein galw am ynni mor isel â phosibl.
Drwy weithio’n agos gyda chwmnïau amgylcheddol eraill, gallwn ganfod y gorau o blith papurau, argraffwyr a phrosesau sy’n sensitif i’r amgylchedd, gan sicrhau y cyflawnir y broses gyfan, o ddylunio cysyniad i argraffiad terfynol, gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd.
Drwy ein system reoli amgylcheddol, rydym wedi cyrraedd Lefel 2 safon amgylcheddol y Ddraig Werdd ers 2003.
argraffu…
Drwy ymchwil parhaus i’r technolegau argraffu diweddaraf, gallwn gynghori ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio papur a phrosesau argraffu sy’n addas i brosiectau dylunio penodol.
Ar gyfer gwaith sy’n argraffu llai o ddeunydd, technoleg argraffu ddigidol sy’n cynnig yr ateb gorau mewn argraffu amgylcheddol gan nad yw’n defnyddio haenellau alwminiwm, toddyddion nac inciau argraffu olew.
Pan fo angen argraffu litho, gweithiwn yn agos gydag argraffwyr sydd wedi cyflawni’r safonau amgylcheddol uchaf drwy systemau rheoli fel y Ddraig Werdd, ISO 14001 ac EMAS. Gellir lleihau effeithiau argraffu litho ar yr amgylchedd drwy ddefnyddio argraffwyr sy’n defnyddio argraffu di-ddŵr, inciau llysieuol, papurau FSC, ynni adnewyddadwy a hefyd yn cefnogi cynlluniau ailgylchu lleol.
papur…
Gall zodshop gynghori ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio papur ar gyfer eich gofynion penodol a gallwn ganfod ystod eang o ddeunyddiau â safonau amgylcheddol uchel. Rydym yn argymell defnyddio papurau TCF (sy’n gwbl rydd o glorin), sydd wedi’u cannu ag ocsigen, sy’n golygu nad oes unrhyw ddiocsinau’n cael eu cynhyrchu yn y broses.
trafnidiaeth…
Rydym yn teithio er mwyn dosbarthu a chyfarfod yn yr ardal leol (radiws 20 milltir) drwy drafnidiaeth gynaliadwy… y beic. Ar gyfer siwrneiau mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr, anelwn at ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn defnyddio ein cerbyd cwmni sy’n rhedeg ar olew llysiau pur, a dyfwyd ac a broseswyd yn y DU.