Arddangosfeydd . . .

Paneli Dehongli Amgylcheddol Aber Afon Teifi: Fe’u rhoddwyd ym mannau amrywiol ar hyd aber afon Teifi i roi gwybod i’r cyhoedd a defnyddwyr cychod am y bywyd gwyllt a’r ardaloedd peryglus.

Paneli Dehongli i Ymwelwyr Canolfan Grefft Corris: Mae’r paneli’n dangos y lleoliad a’r gweithgareddau crefft yn y ganolfan, gan gynnwys atyniad Labyrinth y Brenin Arthur. Dyluniwyd ac argraffwyd y paneli fformat mawr hyn (sydd tua 3m o led) gan ddefnyddio 100% o ynni adnewyddadwy ac inciau VOC isel, diwenwyn.