Zodshop . . .

2004: : Enillydd – Gwobrau Amgylchedd Cymru (Defnydd Ynni Gorau mewn Busnes)

2006: : Enillydd – Bwrdd yr Iaith Gymraeg – Gwobrau Dylunio Dwyieithog 2006 (categori amgylcheddol)

2007: : Canmoliaeth Uchel – Gwobrau Busnes a Chynaliadwyedd Cymru (Categori Newid Hinsawdd – defnydd ynni)

Cwmni dylunio graffig yw zodshop sy’n arbenigo mewn gweithio i sefydliadau, elusennau ac unigolion sy’n ymboeni ynghylch materion amgylcheddol ac sydd eisiau hyrwyddo eu hunain drwy ddefnyddio dylunio ac argraffu sy’n sensitif i’r amgylchedd.

Mae zodshop yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r brif ffrwd. P’un a ddewiswch wasanaeth llawn – o gysyniad i argraffu – neu ddewis o’n hamrywiaeth o wasanaethau, rydym yn sicrhau’r effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd.

Mae ein stiwdio arobryn yn cael ei phweru’n gyfan gwbl gan ein system ynni adnewyddadwy ein hunain, gan ddefnyddio pŵer o’r gwynt, yr haul a dŵr.

Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu atebion dylunio proffesiynol, graenus gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf ecogyfeillgar sydd ar gael inni. Gan weithio’n agos gydag argraffwyr amgylcheddol achrededig, gallwn gynnig atebion argraffu fel eco-bapurau, y diweddaraf mewn technoleg print digidol, argraffu di-ddŵr ac inciau llysieuol.

Rydym wedi cyrraedd Lefel 2 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ers 2003.

Green Dragon Logo Ethical Juction Member